Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 14 Ionawr 2016

Amser: 09.32 - 12.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3326


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David Rees AC

Alun Davies AC

John Griffiths AC

Altaf Hussain AC

Elin Jones AC

Jenny Rathbone AC (yn lle Lynne Neagle AC)

Gwyn R Price AC

Lindsay Whittle AC

Kirsty Williams AC

Tystion:

Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd

Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru

Albert Heaney, Llywodraeth Cymru

Martin Sollis, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Llinos Madeley (Clerc)

Rhys Morgan (Dirprwy Glerc)

Dr Paul Worthington (Ymchwilydd)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

1       Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: paratoi ar gyfer y sesiwn dystiolaeth lafar

1.1 The Committee discussed its approach to the scrutiny of the Draft Budget 2016-17.

</AI2>

<AI3>

2       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a Lynne Neagle. Dirprwyodd Jenny Rathbone ar ran Lynne Neagle.

</AI3>

<AI4>

3       Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a gwaith y Dirprwy Gweinidog Iechyd ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog i ddarparu'r canlynol:

·         amlinelliad o sut mae'r £200 miliwn ychwanegol i gefnogi cyflenwi craidd y GIG wedi cael ei ddosbarthu;

o   ymateb i'r ffigurau a amlinellwyd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru Helpu Pobl Hŷn i Fyw'n Annibynnol: A yw Cynghorau'n gwneud digon?' (Hydref 2015) sy'n dangos - ar sail dadansoddiad Swyddfa Archwilio Cymru bod 16.8 y cant o ostyngiad i gyllidebau gwasanaethau ataliol, o £147.3 miliwn yn 2013-14 i £122.5 miliwn yn 2014-15, gyda saith o'r meysydd a adolygwyd ganddynt yn gweld eu cyllidebau yn gostwng.

·         dadansoddiad o'r gwariant cyfalaf arfaethedig ar gyfer 2016-17, yn cynnwys:

o   manylion y dyraniadau cyfalaf dewisol i fyrddau iechyd lleol;

o   manylion am gostau’r cynlluniau yn 2016-17 sy'n cael eu hariannu yn barod;

o   manylion y dyraniadau cyfalaf newydd ar gyfer 2016-17.

 

3.3 Datganodd David Rees y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·         Mae ei wraig yn cael ei chyflogi fel radiograffydd uwch-arolygydd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

 

</AI4>

<AI5>

4       Papurau i’w nodi

</AI5>

<AI6>

4.1   Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2015.

4.1a Nododd y Pwyllgor y cofnodion.

</AI6>

<AI7>

4.2   Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

4.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

</AI7>

<AI8>

5       Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 20 Ionawr 2016

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI8>

<AI9>

6       Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17: trafod y dystiolaeth

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid a'r Dirprwy Weinidog a chytunwyd i ysgrifennu atynt i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion a gododd yn ystod y sesiwn.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r llythyr hwn yn cael ei rhannu â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i lywio'r craffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17.

</AI9>

<AI10>

7       Ymchwiliad dilynol i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: trafod y deilliannau

7.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Dirprwy Weinidog Iechyd a chytunwyd ar y llythyr hwnnw, yn amodol ar fân newidiadau.

</AI10>

<AI11>

8       Etifeddiaeth Pwyllgor y Pedwerydd Cynulliad: trafod y dull gweithredu

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu a chytunodd arno.

</AI11>

<AI12>

9       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafodaeth am y drefn o ran ystyried trafodion Cyfnod 2

9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried trafodion Cyfnod 2 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) mewn egwyddor.

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>